Cysylltu
"Y Byd i'n Disgyblion a Disgyblion i'n Byd"
Ysgol Brynrefail |
![]() |
Cyswllt â'r Awdurdod Addysg
Mae'n bosib, o bryd i'w gilydd, fod rhieni yn dymuno cymorth y Gwasanaeth Lles Addysg, yr Heddlu, sydd â chysylltiad cymunedol â'r ysgol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gwasanaeth Prydau ysgol, Cludiant i'r ysgol neu Grantiau cynnal. Pe bai rhiant am gysylltu â 'r Awdurdod Addysg Leol dylid gwneud hynny drwy gysylltu â :
Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion
Mr Dewi R. Jones
Swyddfa Addysg
Stryd y Castell
Caernarfon
LL55 1SH
Rhif ffôn yr Adain Ysgolion yw Caernarfon (01286) 679162
Cyswllt â byd busnes a diwydiant
Mae'r ysgol yn hybu llawer o gysylltiadau yn y maes yma drwy gystadlaethau fel Cynllun ar gyfer Peirianwyr Ifanc, lleoli athrawon mewn diwydiant, ymweliadau â gweithfeydd a diwydiannau, a chyfnodau o brofiad gwaith i bob disgybl. Mae pob disgybl ym mlwyddyn 10 ac 11 yn cymryd rhan yn y Cynllun Compact, sef cynllun a gefnogir gan gyflogwyr i roi ystyriaeth fwy ffafriol i ddisgyblion sy'n cwblhau gofynion presenoldeb, prydlondeb, cwblhau gwaith cwrs a phrofiad gwaith yn foddhaol fel eu bod yn ennill Tystysgrif Compact.
Cyswllt â rhieni
Mae perthynas agos rhwng rhieni a'r ysgol yn bwysig iawn ac anogir rhieni i fanteisio ar bob cyfle ffurfiol fel yr ymweliadau wrth drosglwyddo o'r cynradd a nosweithiau rhieni i gyfarfod â'r athrawon sy'n dysgu eu plant, neu yn anffurfiol mewn cyngherddau, eisteddfodau neu weithgareddau Cymdeithas Cyfeillion yr Ysgol. Pe bai angen, cysylltir â'r cartref ar unrhyw adeg pan fydd problem sylweddol ynglŷn â disgybl yn codi, boed hynny yn fater academaidd neu fugeiliol. Credir mai trwy gydweithio a chyd -drafod rhwng ysgol a chartref y ceir yr ateb i unrhyw bryder o bwys. Defnyddir y Llyfr Cyswllt Cartref gan y disgyblion i gofnodi gwaith cartref, dyddiadau pwysig, gweithgareddau, ac yn y blaen. Fe’i defnyddir hefyd i anfon negeseuon rhwng yr ysgol a’r cartref.
Cysylltu â'r ysgol
Mae croeso i chwi gysylltu â'r ysgol i drafod unrhyw fater. Yn gyntaf dylech wneud hynny drwy Swyddfa’r Ysgol, er mwyn osgoi siwrnai seithug. Bydd Ysgrifenyddes yr ysgol yn trefnu apwyntiad gyda'r Prifathro, un o'r Dirprwyon, neu’r Pennaeth Blwyddyn berthnasol.
Rhif ffôn yr ysgol yw Caernarfon (01286) 672381
Cyfeiriad e-bost yr ysgol yw: swyddfa@brynrefail.gwynedd.sch.uk





