Disgyblion
"Y Byd i'n Disgyblion a Disgyblion i'n Byd"
"HOGIA NI ‘DE" - cliciwch yma
Rheolau
Amcanion rheolau yw hyrwyddo trefn yn yr ysgol.Oni ufuddheir iddynt yna mae trefn yr ysgol yn dioddef .
- Rhaid cerdded yn drefnus ar ochr dde y coridorau a'r grisiau.
-
Ni chaniateir rhedeg.
- Disgwylir prydlondeb i'r ysgol ac i'r gwersi.
- Dylai enw y disgybl fod ar bob eitem o wisg ac offer.
- Os bydd angen dod a swm sylweddol o arian i'r ysgol dylid ei roi i'r ysgrifenyddes i'w gadw'n ddiogel. - Ni fydd yr ysgol yn gyfrifol am golledion.
- Rhaid gwisgo y wisg ysgol briodol.
- Rhaid clirio yr adeilad yn ystod yr egwyl a'r awr ginio.
-
Defnyddir y Neuadd i lochesu ar dywydd garw.
- Nid oes caniatad i grwydro oddi ar dir yr ysgol.
- Rhaid cael caniatad rhiant a derbyn tocyn i adael yr ysgol yn ystod yr awr ginio – disgyblion Llanrug yn unig.
- Rhaid i ddisgyblion aros ar iard yr ysgol i ddisgwyl am fws ar ddiwedd y dydd.
Ychwanegir at y rhestr yma yn ôl y gofyn. Gweler y Côd Ymarfer ar Gyfer Disgyblion a‘r Cytundeb Cartref Ysgol.




