Gwybodaeth

"Y Byd i'n Disgyblion a Disgyblion i'n Byd"

Cynnal disgyblion gydag anghenion arbennig 
Bydd disgyblion ag anghenion arbennig yn cael eu cynnal naill ai gyda chymorth athrawon cynhaliol yn y gwersi arferol neu drwy dynnu disgyblion allan ar gyfer ambell wers yn y pynciau craidd.

Absenoldebau
Os yw disgybl yn absennol am unrhyw reswm disgwylir iddo/iddi ddod â nodyn o eglurhad  i'w athro/awes dosbarth pan mae'n dychwelyd. Mae trefn o fewn yr ysgol i ddelio â thriwantiaeth. Dylai rhieni osgoi cymryd eu plentyn/plant allan o’r ysgol am wyliau teulu yn ystod tymor ysgol, yn enwedig yn ystod arholiadau allanol. Os yn angenrheidiol, caniateir absenoldeb awdurdodedig o hyd at un wythnos mewn cyfanswm mewn unrhyw flwyddyn ysgol.  Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb am fwy nag un wythnos mewn blwyddyn ysgol ar gyfer  gwyliau teuluol.

Addysg Grefyddol  
Mae gwersi Addysg Grefyddol  yn digwydd ym mhob blwyddyn o'r ysgol. Yn ogystal trefnir gwasanaethau crefyddol boreol rheolaidd fesul Cyfnod Allweddol neu fesul dosbarth. Gall rhiant eithrio plentyn o wersi Addysg Grefyddol a chydaddoliad ac fe wneir trefniadau i'w harolygu yn  ystod y cyfnod hwn.

Addysg a Chyfarwyddyd  Gyrfaoedd  
Darperir y rhaglen addysg yrfaoedd fel ffordd o feithrin gwybodaeth gyffredinol y disgybl, ei ddealltwriaeth a’i brofiad o addysg hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.  Mae’n anelu at helpu pobl ifanc i feithrin y medrau sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i wybodaeth a’i defnyddio, i fod yn realistig (ond yn uchelgeisiol), ynglŷn â’u galluoedd a’u dyheadau personol ac i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae’r cyfarwyddyd gyrfaoedd sydd ar gael yn yr ysgol yn cynorthwyo unigolion i gymhwyso gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth tuag atynt hwy eu hunain er mwyn gwneud dewisiadau realistig a phenderfyniadau a chynlluniau priodol ynglŷn â’u  dyfodol.  Mae’r cyfarwyddyd yn cynnig cyfloed i adolygu’r hyn a ddysgwyd, i osod nodau newydd ac i gofnodi cyraeddiadau mewn amrywiaeth o feysydd.  Fel rheol nodweddir cyfarwyddyd effeithiol gan ddidueddwch, cyfrinachedd a hygyrchedd - hoffem feddwl ein bod yn cyrraedd y nodweddion pwysig yma!

Mae’r rhaglen yn cael ei darparu i flynyddoedd 9 i 11 ac yn ymestyn i flynyddoedd 12 i 13.  Gwneir hyn drwy gyfrwng rhaglen raddedig sydd wedi ei hintigreiddio o fewn rhaglen ABCh yn ogystal â chyfrannu tuag at gwricwlwm ehangach yr ysgol.  Fel rhan o’r ddarpariaeth y bwriad yw i bob disgybl, yn ystod cyfnodau gwahanol, dderbyn profiadau fel cymorth gyda gwneud dewisiadau, o leiaf un wythnos o brofiad gwaith, un ffug gyfweliad,
mynychu prynhawn opsiynau a mynychu cyfweliad gyda Chynghorydd Gyrfa.  Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol fel Gyrfa Cymru, Colegau Addysg Bellach ac Uwch, Asiantaethau Hyfforddi, Adran Addysg y Cynulliad, Cyngor Gwynedd a nifer o gyflogwyr lleol.  Mae’r Adran Gyrfaoedd a Gyrfa Cymru yn ceisio gadael i rieni/gwarchodwyr wybod beth sy’n mynd ymlaen ar adegau gwahanol.  Maent hefyd ar gael yn ystod nosweithiau rhieni neu fo’n gyfleus i geisio ateb unrhyw gwestiwn perthnasol.

Addysg Rhyw  

Mae addysg rhyw yn rhan allweddol a chreiddiol o gwricwlwm pob disgybl ac mae'r modd y'i cyflwynir yn annog disgyblion ei drafod mewn cyd-destun moesol a chymdeithasol. Defnyddir gwersi Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3 i ddysgu'r agweddau ffeithiol biolegol ac addysg iechyd. Yng Nghyfnod Allweddol 4 defnyddir y rhaglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol i drafod materion cymdeithasol, cam-drin, agweddau ar ryw, creu perthynas, afiechydon fel SDIC a chynllunio teulu. Gwahoddir arbenigwyr o fyd addysg iechyd i'r ysgol i gyfrannu at y rhaglen hon. Gall rhiant dynnu plentyn o'r cyfan neu ran o'r rhaglen addysg rhyw.

Arholiadau Allanol          
Bydd holl ddisgyblion yr ysgol yn derbyn asesiadau athrawon yn 14 oed ym mhob pwnc. Bydd y mwyafrif helaeth o'n disgyblion yn sefyll arholiadau TGAU Cyd Bwyllgor Addysg Cymru yn 16 oed.  Gall nifer fechan o'r disgyblion, yn unol â'u cyrhaeddiad, sefyll  arholiad y Dystysgrif Lefel Mynediad.  Yna, cânt gyfle i sefyll arholiadau lefel A neu AS, os ydynt am aros ymlaen i’r Chweched Dosbarth.

Cynhwysir ffigyrau canlyniadau arholiadau a'r pynciau mae'r disgyblion yn eu sefyll  yn yr ysgol yn yr atodiadau yng nghefn y llyfryn yma. Un agwedd yn unig o lwyddiant ysgol yw canlyniadau arholiadau ac mae tystiolaeth fod rhieni yn rhoi pwyslais ar agweddau eraill yn ogystal megis gweithgareddau allgyrsiol, disgyblaeth a gwedd ac adnoddau'r ysgol. Yn aml bydd canlyniadau arholiadau yn adlewyrchu'r amrywiaeth yn natur y dalgylchoedd yn hytrach na llwyddiant ysgol benodol. Mae’n holl bwysig na fydd disgyblion yn absennol ar gyfer arholiadau allanol.


Arolwg  o'r ysgol             
Cafwyd Arolwg o waith yr ysgol yn Nhachwedd 2006.  Cafwyd cryn ganmoliaeth i fywyd a gwaith yr ysgol—gellid gweld yr adroddiad ar safwe ESTYN.

Asesu  ac adrodd 
Mae asesu yn broses hanfodol a pharhaus fel rhan o gynllun gwaith pob adran. Ar wahân i asesu cyson yn ystod y flwyddyn, cedwir tystiolaeth er mwyn rhoi barn ar lefel cyrhaeddiad ac ymdrech ym mhob pwnc. Cynhelir profion ac arholiadau rheolaidd gan adrodd i rieni ddwywaith neu deirgwaith pob blwyddyn ac mewn cyfarfodydd ffurfiol ble ceir cyfle i gyfarfod â’r athrawon sy'n dysgu'r disgyblion.

Cofnod o Gyrhaeddiad 
Fe gyflwynir Cofnod o Gyrhaeddiad i bawb ym mlwyddyn 11.  Ei fwriad yw crynhoi amrywiaeth helaeth o gyflawniadau personol  y disgybl o fewn a thu allan i'r ystafell dosbarth nad yw’r  arholiadau  allanol yn eu mesur.

Cwricwlwm yr ysgol  
Mae'r ysgol yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys gan ddilyn gofynion a chanllawiau pynciau a themâu trawsgwricwlaidd y Cwricwlwm Cenedlaethol. Dyma amlinelliad o'r ddarpariaeth gwricwlaidd a geir yn yr ysgol yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Cwricwlwm Cyfnod Allweddol 3
Iaith :   Cymraeg, Saesneg, Iaith Fodern-Ffrangeg           
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Technoleg: Dylunio, Celf
Dyniaethau: Daearyddiaeth, Hanes, Astudiaethau Crefyddol
Cerdd
Addysg Gorfforol
Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Technoleg Gwybodaeth
Cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4
Iaith : Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth
Saesneg     Iaith a llenyddiaeth
Iaith Fodern - Ffrangeg a Sbaeneg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Technoleg  Dylunio a Thechnoleg
Gofal Plant
Arlwyo
Celf
Addysg Trafnidiaeth
Technoleg Gwybodaeth
Adeiladwaith
Dyniaethau        Hanes
Daearyddiaeth
Astudiaethau Crefyddol
Cerdd
Sgiliau Bywyd
Addysg Gorfforol
Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Sgiliau Gwledig
Astudiaethau Busnes
Cwricwlwm y Chweched Dosbarth         
Mae'n bwysig fod gwaith Cyfnodau Allweddol 3 a 4 yn gosod sylfaen ar gyfer yr hyn a ddewisir gan ein disgyblion yn y Chweched Dosbarth. Mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn dewis dychwelyd i'r ysgol i astudio pynciau Lefel A  neu AS. Cânt gyfnodau tiwtora a chraidd cyffredin yn ogystal. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o'n disgyblion wedi manteisio ar yr arfer o gynnal rhai pynciau ar y cyd ag ysgolion eraill yn Arfon gan wneud hynny gyda Drama yn Ysgol Glanaethwy,   Electroneg ym Mhrifysgol Bangor ac Addysg Gorfforol ym Mangor. Ceir llwybr mwy galwedigaethol i rai disgyblion sy'n eu caniatáu i ddilyn y cwrs llwyddiannus mewn Iechyd a Gofal.

Gwaith Cartref
Bydd gwaith cartref y cael ei osod yn rheolaidd ym mhob pwnc. Defnyddir gwaith cartref i fesur ymroddiad disgybl ac i fagu'r arferiad o weithio’n annibynnol, cyson a threfnus. Bydd y gwaith a osodir fel gwaith cartref yn cael ei gofnodi yn y Llyfr Cyswllt Cartref.

Disgwylir i rieni hysbysu'r ysgol ynghylch unrhyw gyflwr meddygol neu glinigol a allai effeithio ar allu’r disgybl i wneud unrhyw agwedd o waith yr ysgol. Pe bai disgybl yn sâl yn yr ysgol gwneir pob ymdrech iddo\ iddi fynd adref ar ôl cysylltu â'r rhiant. Ni roddir tabledi nac unrhyw foddion i ddisgybl oni bai fod y rhiant yn cysylltu drwy lythyr â'r ysgol i wneud trefniadau arbennig. Mae’r nyrs ysgol yn cynnal meddygfa wythnosol yn yr ysgol.  Gwahoddir disgyblion i drefnu apwyntiad gyda’r meddyg ysgol pan fydd angen.

Mae'r ysgol yn cefnogi cynllun Gwersi Offerynnol i ddisgyblion sy'n hybu medrusrwydd gydag offerynnau cerdd. Adolygir yr ymrwymiad i'r  cynllun hwn yn flynyddol.

Disgyblaeth  
Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am ddisgyblaeth yn y dosbarth. Trefnir dyletswyddau staff i arolygu yn ystod yr egwyl a'r awr ginio. Cyfeirir unrhyw drafferthion disgyblaeth at y Pennaeth Blwyddyn  fel cam cyntaf.  Yna, os yw'r digwyddiad yn un difrifol, i'r Dirprwyon neu'r Prifathro. Rhoddir y pwyslais ar i'r disgyblion ddefnyddio eu synnwyr cyffredin gan ymddwyn yn rhesymol ac annibynnol heb ormod o oruchwyliaeth. Y nod yw datblygu hunanddisgyblaeth a'r  gallu  i ymddwyn yn ddoeth heb i rywun mewn awdurdod fod wrth law a cheryddu bob amser. Mae'r mwyafrif helaeth yn ymateb yn ffafriol iawn i'r math yma o sefyllfa. Pe bai angen, fe gosbir disgyblion drwy eu cadw i mewn yn ystod yr egwyl neu'r awr ginio neu ar ôl ysgol ar ôl rhoi  rhybudd i rieni.

Difrod i eiddo
  
Disgwylir i unrhyw un a geir yn euog o niweidio eiddo'r ysgol neu eiddo i'r staff neu ddisgybl dderbyn y cyfrifoldeb am wneud iawn am y niwed.

 

Mae'r drefn fugeiliol yn amcanu i ofalu am les y disgybl gan arolygu'r ymddygiad a'r cynnydd  yn gyffredinol. Yr athro/athrawes sy'n cofrestru'r dosbarth ddwywaith y dydd sydd yn gyfrifol am oruchwylio presenoldeb a gweld fod y disgybl yn deall rheolau'r ysgol. Cyfeirir unrhyw broblem sylweddol gydag unrhyw ddisgybl at y Pennaeth Blwyddyn ac os bydd angen i sylw’r Dirprwyon neu'r Prifathro. Credir mewn dwyn sylw rhieni at unrhyw bryder sylweddol sy'n digwydd yn yr ysgol ac fe wneir hynny drwy lythyr neu dros y ffôn.

Cymharol fychan yw maint y rhan fwyaf o ddosbarthiadau yn yr ysgol gyda rhifau o gwmpas 25 neu lai fel arfer.  Ceir amrywiaeth o ddulliau dysgu lle mae disgyblion yn cael eu grwpio mewn dosbarthiadau o wahanol allu. Yr arferiad mwyaf cyffredin yw cynnal dosbarthiadau o allu cymysg, ond mae enghreifftiau o setio a bandio mewn rhai pynciau. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu gan gynnwys gwaith dosbarth cyfan, gwaith grŵp ac ymchwilio unigol er mwyn herio'r unigolyn.

Mae disgwyl i'r disgyblion sy'n mynychu'r ysgol wisgo gwisg arbennig. Mae sawl rheswm am hyn ond y prif reswm yw dangos eu bod yn ddisgyblion Ysgol Brynrefail a'u bod yn falch o'r ysgol a bod y wisg ysgol yn arwydd o hynny.
Cefnogir y wisg ysgol gan y Corff Llywodraethol. Ceir rhestr o'r wisg yn Atodiad 3. Gall rhieni mewn achosion o angen gwneud cais am grant  gwisg i'r Awdurdod Addysg. Dewiswyd y wisg i gynrychioli’r hyn a gredir sy’n rhesymol o ran pris a bod modd eu prynu’n lleol.  Mae cyflenwyr y wisg yn cynnwys siopau dillad lleol:

- Go for It Sports—Bangor
- Orchid Fashions – Caernarfon a Bangor
- Na-Nog – Caernarfon,
- Siop Trefor Jones, 8 Stryd y Bont, Caernarfon                                    
- Brodwaith, Pentrefoelas: www.brodwaithdirect.co.uk

Mae’n bwysig fod pob dilledyn ag enw’r disgybl yn glir arno.



Gwisg Disgyblion Bl.7 i 11

Crys polo gwyn – gyda logo’r Ysgol arno
Crys chwys gwyrdd tywyll – gyda logo’r Ysgol arno
Trowsus plaen du – nid jeans, neu *sgert ysgol werdd dywyll
Hosanau plaen tywyll neu * ‘tights’ plaen tywyll
Esgidiau plaen du
Côt dywyll blaen
(*genethod yn unig)
Gemwaith – am resymau diogelwch, mae disgwyl i ddisgyblion beidio â gwisgo gemwaith ond fe ganiateir i ddisgyblion wisgo un ‘stud’ yn unig ym mhob clust os dymunir.


Gwisg Addysg Gorfforol

Crys chwaraeon gwyrdd â llinell goch
Crys T gwyn
Bechgyn –  sanau du  / Genethod – sanau gwyrdd
Siorts du
Trainers/pymps i’r gampfa
Esgidiau pêl-droed ar gyfer gemau ar y caeau gwair
‘Shin pads’ ar gyfer hoci, pêl-droed a rygbi
Awgrymir yn gryf fod disgyblion yn gwisgo arbedwr dannedd ar gyfer gemau tîm.
Gemwaith – dim i’w gwisgo o gwbl mewn gwersi addysg gorfforol
Trowsus trac du

Gwisg myfyrwyr Bl.12 a 13

Crys gwyn blaen - nid crys polo
Tei Ysgol gyda logo Chweched Dosbarth yr Ysgol – ar gael o’r Ysgol
Siwmper ddu blaen gwddf ‘V’ - gyda logo Chweched Dosbarth yr Ysgol – ar gael o’r Ysgol
Trowsus plaen du - nid jeans neu *sgert ysgol blaen du
Hosanau plaen tywyll new *tights plaen tywyll
Esgidiau plaen du
Côt dywyll blaen
(*genethod yn unig)
Gemwaith - am resymau diogelwch mae disgwyl i fyfyrwyr Bl.12 a 13 fod yn rhesymol - yn unol â disgresiwn y Prifathro - o ran nifer, lleoliad a gwerth y gemwaith a wisgir.

Cedwir cofnod cwricwlaidd ar gyfer pob disgybl ac fe'i diweddarir yn flynyddol. Dylid cysylltu â'r Prifathro i drafod adroddiad unrhyw ddisgybl. Lluniau/fideos - bydd yr ysgol yn tynnu lluniau llonydd a/neu symudol o’r disgyblion fel cofnod o waith yr ysgol ac weithiau yn gwahodd pobl o’r cyfryngau cyhoeddus i’r ysgol i dynnu lluniau a/neu ffilmio yn ôl disgresiwn y Prifathro.  Cymerir yn ganiataol nad oes gwrthwynebiad i hyn gan riant/warcheidwad - os oes, a fyddech cystal â chadarnhau hynny drwy lythyr i’r Prifathro, os gwelwch yn dda.

Mae'r ysgol yn falch iawn o'i llyfrgell adnoddau, sef tair ystafell nesaf i'w gilydd. Mae un yn cynnwys y llyfrgell draddodiadol gydag amrywiaeth helaeth o’r offer cyfrifiadurol diweddaraf gyda llyfrgellydd yn goruchwylio ac yn cynorthwyo’r disgyblion wrth eu gwaith. Yn y ddwy ystafell arall lleolir tri deg o gyfrifiaduron ar gyfer gwaith dosbarth a chaiff pob disgybl gyfle i ddefnyddio pob math o offer i bwrpas technoleg gwybodaeth.  Mae pob ystafell ddysgu yn gysylltiedig â’r rhwydwaith cyfrifiadurol cwricwlaidd sy’n galluogi mynediad i’r Wê.  Mae dwy  ystafell technoleg gwybodaeth newydd yn y bloc Technoleg newydd gafodd ei agor yn Ionawr 2003.  Mae tua 300 o gyfrifiaduron ar rwydwaith TGC yr ysgol i gyd â chyswllt band llydan a’r We.

MYNEDIAD I'R YSGOL
Caiff pob disgybl sy'n mynychu ysgol gynradd yn nalgylch Ysgol Brynrefail yr hawl i sicrhau mynediad iddi. 165 yw rhif mynediad yr ysgol. Gwneir cysylltiadau â rhieni yn ystod tymor cyntaf  y flwyddyn academaidd cyn i ddisgybl drosglwyddo i’r ysgol uwchradd. Gwrandewir ar apeliadau gan y Cyfarwyddwr Addysg. Dylai rhiant sy'n symud i mewn i'r ardal gysylltu â'r Prifathro yn y man cyntaf.

Mae gan yr ysgol bolisi strwythuredig i sicrhau rhaglen addysg diwydiant a busnes gyda'r pwyslais ar ei integreiddio i gwricwlwm yr ysgol. Fel rhan o'r rhaglen hon rhoddir lleoliadau profiad gwaith i bob disgybl yn Flwyddyn 11 ac 12.  Cyn trefnu'r lleoliad bydd yr ysgol yn trafod a phenderfynu ar nôd ac amcanion y lleoliad a'i berthnasedd i'r disgybl. Ceir cefnogaeth Gyrfa Cymru i hyrwyddo cysylltiadau â byd gwaith a chyflogwyr. Mae’r ysgol wedi derbyn dwy Wobr Cydnabod Ansawdd am ei gwaith arbennig gyda Phrofiad Gwaith  cyn 16 oed ac am eu gwaith gyda Chyfarwyddyd ac Addysg Gyrfaoedd drwy’r ysgol.

Mae'r Awdurdod Addysg Leol wedi mabwysiadu polisi o godi tâl ar ddisgyblion am :
*gostau llety a bwyd ar ymweliadau addysgol
*weithgareddau y tu allan i oriau ysgol
*arholiadau allanol pan nad yw'r ysgol wedi paratoi disgyblion ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn honno.          
*arholiadau pan fo disgybl yn methu cyflawni'r gofynion neu fynychu'r arholiad heb reswm digonol.
*difrod i eiddo'r ysgol neu am golli eiddo 'r ysgol.
*gymryd rhan yn y Cynllun Offerynnau Cerdd.

Gofynnir am gyfraniad gwirfoddol  gan rieni pan na ellir codi tâl am weithgareddau ond sicrheir na waherddir disgyblion rhag cymryd rhan pan na all rhieni gyfrannu. Mae'n bosibl na fydd modd cynnal rhai gweithgareddau heb gefnogaeth wirfoddol deilwng. Ceir manylion pellach yn yr ysgol ynglŷn â gwybodaeth am ddarpariaeth ar gyfer disgyblion anghenus.

Mae'r Awdurdod Addysg Leol, yn unol â gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol, dan Adran 23 o'r Ddeddf Diwygio Addysg 1980,wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion am y modd y mae cyrff llywodraethu'r  ysgolion a'r Awdurdod Addysg yn gweithredu mewn perthynas â chwricwlwm ysgol a materion eraill cysylltiedig. Amlinellir y drefn hon mewn dogfen a geir yn yr ysgol. Darperir copi rhad yn ôl y gofyn. Pwysleisir fodd bynnag y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy drafod â'r Prifathro. Hwn yw'r cam rhesymol cyntaf, felly bydd y Corff Llywodraethol yn disgwyl bod y cam yma wedi’i gyflawni cyn cyflwyno'r cwyn yn ffurfiol. Dylid cysylltu ag Ysgrifenyddes yr ysgol i wneud apwyntiad i drafod y mater gyda'r Prifathro.

Trefn y dydd  
Darperir gwersi am 25 awr yr wythnos. Rhennir y dydd yn  chwe gwers bob un yn 50 munud o hyd. Cenir cloch rhwng pob gwers ac mae'r disgyblion yn symud o un ystafell arbenigol i un arall. Wrth symud o gwmpas yr ysgol  rhwng gwersi mae'n rhaid gwneud hynny’n drefnus gan gadw ar ochr dde’r coridorau a'r grisiau.      

Trefn y Dydd

8:45  -   9:00         Cofrestru  a Gwasanaeth
  9:00  - 10:40         Gwersi 1 a 2
10:40 -  11:00         Egwyl y bore
11:00 -  12:40         Gwersi 3 a 4
12:40 -  13:40         Cinio
13:40 -  13.45         Cofrestru
13.45 -  15.25         Gwersi 5 a 6                

Trefniadau amser cinio  
Er diogelwch y mae'n rhaid i ddisgyblion yn ystod yr awr ginio roi gwybod i'r athro/awes dosbarth o'u bwriad i :
Un ai :                  

- mynd adref os ydynt yn byw yn ddigon lleol i gerdded adref yn ystod yr awr ginio.

- gymryd cinio ysgol. Trefnir cinio am ddim i'r rhai sydd â'r hawl i'w dderbyn.

- ddod â bwyd eu hunain i'w fwyta yn y Ffreutur.             

Rhaid rhoi gwybod i'r athro/awes dosbarth os newidir y drefn yn ystod y flwyddyn. Darperir tocyn caniatâd i'r disgyblion hynny sy'n mynd adref amser cinio, dim ond ar ôl derbyn ffurflen bwrpasol wedi ei harwyddo gan riant.

Mae gan y Prifathro hawl i wahardd disgyblion rhag mynychu'r ysgol am unrhyw reswm a ystyria yn ddigonol am gyfnod hyd at bymtheg niwrnod ysgol mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y  Llywodraethwyr. Bydd gan  y rhieni hawl i apelio yn erbyn y gwaharddiad i Gadeirydd y Llywodraethwyr. Os bydd y Prifathro o'r farn fod angen ymestyn yr ataliad, gall y Cadeirydd awdurdodi ei ymestyn am gyfnod hyd at bedwardeg pum diwrnod ysgol, ond yn ystod y cyfnod hwn rhaid galw cyfarfod o'r Llywodraethwyr i ystyried yr achos. Mae modd apelio i Banel Apêl annibynnol dan Ddeddf Addysg 1993 os bydd yr Awdurdod Addysg Leol yn cymeradwyo'r penderfyniad o wahardd yn barhaol.
Ystyrir y troseddau canlynol yn achosion o gamymddwyn difrifol:

- Bygwth, ymladd ag neu ymosod ar ddisgybl neu aelod o staff.

- Bod yn anfoesgar neu anufudd tuag at aelod o staff yr ysgol.

- Dwyn.

- Dinistrio eiddo.

- Gadael yr ysgol heb ganiatâd.

- Ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol neu ysmygu.

- Dod ag arf/arfau peryglus i’r ysgol.

Anaml iawn mae'r troseddau uchod yn digwydd ond os cyflawnir un ohonynt, mae'r gosb yn llym a phendant.

Nifer y disgyblion 11-15 oed                                                      616
Nifer yr hanner dyddiau ysgol hyd at 25 Mai 2007                 308
Canran y sesyinau a gollwyd hyd at 25 Mai 2007
Cyfanswm yr hanner dyddiau a gollwyd drwy:-

absenoldebau awdurdodedig                   14839               7.8%
absenoldebau anawdurdodedig                  784                0.4%     
pob absenoldeb                                           15623               8.2%    


Cyrchfannau Disgyblion  2006 – 2007

Oedran disgyblion  15 16 17+
Cyfanswm disgyblion  126 53 55
       
Cwrs ysgol / addysg bellach 113   49  3
Cwrs addysg uwch  - - 47
Cyflogaeth 7 4 5
Hyfforddiant Ieuenctid 6 - -

 

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn darparu copïau o offerynnau statudol a chylchlythyrau ymhob ysgol a gall rhieni drefnu i ymweld â'r ysgol i gael mynediad at y dogfennau yn ddi-dâl, ond os bydd angen darparu copïau yna fe godir y tal priodol amdanynt. Ceir casgliad llawn o ddatganiadau a pholisïau’r ysgol a'r Awdurdod Addysg Leol yn yr ysgol yn ogystal â chynlluniau gwaith, meysydd llafur ac adroddiad Arolwg yr ysgol yn Nhachwedd 2006.

Bydd y Prifathro yn darparu copiau o ddatganiadau (ac eithrio dogfennau hawlfraint - gellir archebu copiau gan y Swyddfa Gymreig neu brynu rhai lle codir tal arnynt trwy HMSO) yn rhad ac am ddim. Dylid trefnu apwyntiad i ymweld â'r ysgol i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ar gael - bydd peth gwybodaeth ar y cyfrifiadur a bydd yn rhaid sicrhau na fydd galw arno yn ystod cyfnod yr ymweliad.  Os bydd newidiadau neu ychwanegiadau yn digwydd i'r wybodaeth a gyflwynir yn y Llawlyfr hwn hysbysir cyfarfod blynyddol y Llywodraethwyr a'r Rhieni o hynny.