Urdd/ Clybiau
"Y Byd i'n Disgyblion a Disgyblion i'n Byd"
Ceir digon o weithgareddau a phrofiadau amrywiol i ehangu gorwelion y disgyblion.
Ymysg y rhai mwyaf cyffredin nodir:
- Gweithgareddau’r Urdd gyda theithiau ac ymweliadau â Gwersyll Glanllyn.
- Twrnameintiau Chwaraeon fel :
- pêl-droed
- hoci
- pêl-rwyd
- pêl-fasged
- athletau
- nofio
- rygbi
Ymweliadau â'r Theatr.
Croesewir siaradwyr gwadd, grwpiau dawns a dramatig i'r ysgol.
Eisteddfod yr ysgol ac Eisteddfodau’r Urdd.
Fel arfer ceir taith dramor yn ystod Gwyliau'r Pasg neu ar ddiwedd Tymor yr Haf.
Ymweliadau addysgol â diwydiannau a byd busnes.
Wythnos Drawsgwricwlaidd – Blwyddyn 7 i 9 – Tymor yr Haf – wythnos o weithgareddau estynedig cwricwlaidd sydd yn cyfoethogi profiadau addysgol y disgyblion ac yn rhan integredig o’u haddysg. Mae disgwyl i bob disgybl gymryd rhan llawn yn y gweithgareddau hyn.
Sefydlwyd Clwb 'Refail sef clwb sy'n cyfarfod rhwng 4 a 6 o'r gloch i ddefnyddio adnoddau’r ysgol gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden fel pêl-droed, pêl-rwyd, gymnasteg, pelfasged, criced a dawns i ddisgyblion cynradd y dalgylch a disgyblion iau Ysgol Brynrefail.




