Ysgol

"Y Byd i'n Disgyblion a Disgyblion i'n Byd"

Ysgol gyfun, gymunedol, wledig o faint canolig  yw Ysgol Brynrefail sy'n sefyll yng nghanol dalgylch ysgolion cynradd troed Yr Wyddfa gan gynnwys ysgolion cynradd  Bethel, Cwm y Glo, Deiniolen, Llanberis, Llanrug a Phenisarwaun. Yn y bôn, cefndir cyffelyb sydd i'r ysgolion hyn ac felly bydd y newydd-ddyfodiaid yn cyfarfod â disgyblion eraill o gefndir tebyg iawn i'w gilydd. Ar hyn o bryd mae 740 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol ac nid yw'n rhy fawr i bawb allu dod i adnabod ei gilydd mewn awyrgylch cartrefol. Felly, nid yw dod i Ysgol Brynrefail o ysgol gynradd yn brofiad arswydus, ac mae disgyblion newydd yn ymgartrefu yn fuan iawn. Yn wir, mae dieithriaid ac ymwelwyr cyson yn nodi’r awyrgylch cwrtais, cynnes, Cymreig fel un o nodweddion hynotaf yr ysgol.  Nid oes angen i ddisgyblion newydd bryderu, ac os oes unrhyw broblem yn codi, gall y disgybl ofyn am gymorth gan unrhyw aelod o staff, gan wneud hynny ar unwaith.  Dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol ym Medi 2000 a chanmolwyd yr ysgol yn ystod Arolwg yn Nhachwedd 2006.
Prifathro:  Mr Eifion Jones B.Sc.
Cadeirydd y Llywodraethwyr : Mrs Ann Pritchard Jones
Ysgol gyfun gymunedol ddwyieithog ar gyfer disgyblion oedran 11- 18
Nifer disgyblion  - 720
Nifer  ceisiadau i Flwyddyn 7 - 108
Canran ganiatawyd - 100%
Rhif mynediad - 165

Amcan yr ysgol
Prif amcan yr ysgol yw sicrhau fod pob disgybl yn cael ei drin a'i barchu fel person cyflawn ac yn cael ei gynorthwyo a'i ysgogi i ddatblygu fel person ym mhob ffordd.

Amcanion  Academaidd

Cyflwyno pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a darpar cyrsiau addas ôl-16 oed.

Paratoi cyrsiau addas a diddorol a'u cyflwyno trwy ddulliau dysgu priodol er mwyn datblygu gallu pob disgybl i’r eithaf.

Paratoi cyrsiau sy'n adlewyrchu gwybodaeth a diwylliant er mwyn i'r disgybl ddatblygu yn berson goleuedig yn y gymdeithas.   

Meithrin diddordebau personol y disgybl a'i gynorthwyo i ddewis gyrfa addas.

Datblygu gallu pob disgybl i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn ei alluogi i fod yn aelod cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y mae yn byw ynddi.

Sicrhau addysg sy'n dyfnhau ymwybyddiaeth o'r amgylchfyd  cenedlaethol a byd eang.

Sicrhau fod disgyblion ag anghenion  addysgol arbennig  yn cael pob cyfle a chymorth i ddatblygu.

Amcanion Bugeiliol

  • Meithrin hunanddisgyblaeth yn y disgyblion mewn awyrgylch cartrefol a chyfeillgar.
  • Bod yn adeiladol wrth geryddu gan roi pwyslais ar ymresymu yn hytrach na chosbi.
  • Trin disgyblion â pharch a chydymdeimlad er mwyn creu perthynas iach rhwng athro a disgybl.  Ni ddylid dilorni disgybl ar unrhyw adeg.
  • Bod yn effro i unrhyw arwydd o anhapusrwydd mewn disgybl sy'n cael ei fynegi drwy ddiffyg ymroddiad, diffyg prydlondeb neu absenoldeb.

Amcanion Cymdeithasol

    • Creu cymdeithas wareiddiedig lle mae disgyblion ac athrawon yn parchu ei gilydd ac yn cydweithredu i gyflawni gweithgareddau o werth addysgol.                               
    • Creu awyrgylch o gyfeillgarwch a diwydrwydd.
    • Hybu bob math o weithgareddau allgyrsiol ffurfiol ac anffurfiol a fydd yn cyfoethogi profiadau cymdeithasol y disgyblion.