logo Ysgol Brynrefail

Ysgol Brynrefail

Llun o adeilad Ysgol Brynrefail

Yr ydych yma: Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Byd Brynrefail

Byd Brynrefail


Rhai llwyddiannau disgyblion y tymor yma

Anya Wharton

Yn naturiol mae gennym ambell ddisgybl gwych yn y maes chwaraeon awyr agored a ninnau yn byw mewn ardal lle mae cymaint o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath. Llongyfarchiadau mawr i Anya Wharton o flwyddyn 10 ar ennill Hyfforddwr Ifanc Canwio Cymru 2020 ym mis Tachwedd. 

Gohebwyr Ifanc Bro 360 Mae

14 person ifanc o ardaloedd Arfon a Cheredigion wedi’u dewis i gymryd rhan mewn cwrs newydd sbon i feithrin gohebwyr lleol. Mae dau o’r pedwar ar ddeg yn ddisgyblion blwyddyn 12 yr ysgol sef Gwernan Brooks a Nel Pennant Jones. Llongyfarchiadau i’r ddwy!

Darllenwch mwy o Cylchlythyr Byd Brynrefail Tymor yr Hydref 2020