logo Ysgol Brynrefail

Ysgol Brynrefail

Llun o adeilad Ysgol Brynrefail

Yr ydych yma: Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Byd Brynrefail - Issue 17

Byd Brynrefail - Issue 17


Gair gan y Pennaeth

Annwyl Rieni / Warchedwaid

Dyma ni wedi dod i ddiwedd blwyddyn arall yn Ysgol Brynrefail! Fel y gwelwch o’r rhifyn yma mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn i ddisgyblion a staff yr ysgol. Mae hi wedi bod yn fendigedig gweld y disgyblion yn cael dychwelyd i fwynhau profiadau arferol yr ysgol cyn cyfnod y clo, gan gynnwys cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, cymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon ac athletau, ymweliad i Llundain gan rai disgyblion a’r diwrnodau sgiliau bendigedig a gawsom eleni. Fe fuom yn hynod o ffodus gyda’r tywydd oedd yn golygu bod y profiadau awyr agored o feicio, cerdded, caiacio a gweithgareddau chwaraeon amrywiol wedi bod tipyn mwy pleserus eleni! Braf hefyd cael gweld ein pobl ifanc yn cael mynd allan ar brofiad gwaith unwaith yn rhagor a cychwyn paratoi ar gyfer y dyfodol. Rhaid camnol disgyblion hŷn yr ysgol hefyd am y ffordd aeddfed y maent wedi ymdopi hefo gofynion yr arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni. Doedd hynny ddim yn brofiad hawdd iddynt yn dilyn cyfnod hir heb gael arholiadau allanol. Cawsom y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i ddisgyblion blwyddyn 13 mewn bwffe ffarwel yn yr ysgol yn ddiweddar. Cafodd disgyblion blwyddyn 11 y cyfle i wisgo i fyny a mwynhau prom er mwyn dathlu diwedd cyfnod yn Ysgol Brynrefail yng Ngwesty’r Vic Llanberis

Fe ddaeth hefyd yn ddiwedd cyfnod i mi fel Pennaeth yn Ysgol Brynrefail ar ôl 10 mlynedd o weithio yn yr ysgol arbennig iawn hon. Byddaf yn symud i swydd newydd fel Arweinydd Craidd Ysgolion Uwchradd Gwynedd gyda GwE. Mae hi wir wedi bod yn fraint cael bod yn Bennaeth ar Ysgol Brynrefail. Fy uchelgais wrth gychwyn ar y gwaith oedd ceisio sicrhau bod disgyblion yr ardal hon yn cael yr addysg, y profiadau a’r cyfleoedd gorau posib.

Mae hi yn braf cael dweud bod ein hysgol yn cael ei chydnabod fel ysgol sydd yn ysgol ragorol gan sefydliadau megis Estyn. Byddwn yn hoffi diolch yn fawr i staff a Llywodraethwyr yr ysgol am eu cefnogaeth i mi dros y blynyddoedd. Diolch arbennig i’r Dirprwy Bennaeth Elfed Williams fydd yn ymddeol ar ôl 29 o flynyddoedd ffyddlon iawn o wasanaeth i’r ysgol. Diolch hefyd i chi fel rhieni am eich cefnogaeth i mi a’r ysgol dros y blynddoedd. Dymunaf pob llwyddiant i Ysgol Brynrefail ar gyfer y dyfodol!

Ellen Williams
Pennaeth

Darllenwch mwy o Cylchlythyr Byd Brynrefail Tymor yr Haf 2022