Yr ydych yma: Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Byd Brynrefail - Rhifyn 15
Byd Brynrefail - Rhifyn 15
Gair gan y Pennaeth
Annwyl Rieni/ Warchedwaid
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn hollol anarferol unwaith eto eleni! Pwy fyddai wedi rhagweld y byddem unwaith yn rhagor wedi cael cyfnodau estynedig o dan glo o ganlyniad i sefyllfa COVID. Hoffwn ddiolch yn fawr i chi fel rhieni am eich cefnogaeth i ni yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hoffwn hefyd longyfarch ein disgyblion oll am y ffordd bositif ac aeddfed iawn y maent wedi ymateb i sefyllfa o ddelio hefo COVID dros y flwyddyn diwethaf. Maent yn haeddu canmoliaeth mawr am eu gallu i addasu i’r amodau newydd ar y safle ac hefyd y modd iddynt ymgymryd gyda’r her o ddysgu arlein a cymryd rhan mewn gwersi byw.
Fel y gwelwch, er na fu hi yn bosib cynnal pob un o’r gweithgareddau yr ydym fel arfer yn eu cynnal, gan gynnwys yn anffodus yr Eisteddfod ysgol, mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawno weithgareddau serch hynny yma yn Ysgol Brynrefail. Edrychwn ymlaen gobeithio at gael dychwelyd i rhyw fatho normalrwydd y flwyddyn nesaf. Gyda dymuniadau gorau i chi oll fel teuluoedd dros y gwyliau Haf.
Ellen Williams
Pennaeth
Darllenwch mwy o Cylchlythyr Byd Brynrefail Tymor yr Haf 2021