Yr ydych yma: Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Byd Brynrefail - Rhifyn 16
Byd Brynrefail - Rhifyn 16
Gair gan y Pennaeth
Annwyl Rieni/ Warchedwaid
Diwedd tymor prysur
Mae’r tymor yn prysur ddirwyn i ben ac wrth edrych yn ôl dylem fod yn hynod o falch o’r hyn sydd wedi ei gyflawni dan amgylchiadau eithriadol o heriol ac anodd. Mae’r don COVID wedi bod yn golchi trosom ers wythnosau bellach a nifer o ddisgyblion a staff wedi dal yr aflwydd. Er gwaethaf hynny a’r problemau sy’n dod yn ei sgil, rydym wedi llwyddo i ddal ati â’r gwersi a’r gweithgareddau (y rhai hynny sy’n bosib dan y cyfyngiadau). Nid ar chwarae bach mae hyn wedi digwydd, felly diolch yn fawr iawn i’r holl staff am ddal ati yng ngwyneb amodau heriol tu hwnt, ond yn bennaf diolch i’r disgyblion – y mwyafrif llethol ohonyn nhw wedi dangos gwydnwch arbennig dros y tymor diwethaf – da iawn chi, rydym yn hynod falch ohonoch.
Y newyddion trist yw, er i ni ddechrau paratoi ac ymarfer, na fydd hi’n bosib cynnal Eisteddfod Ysgol Brynrefail fel roedden ni wedi ei fwriadu ar Ragfyr 17eg. Mae hyn yn siom enfawr i ni gyd, yn enwedig felly y chweched dosbarth sy’n cael cymaint o fudd o baratoi’r gwahanol eitemau a hyfforddi’r disgyblion iau. Trist o beth yw bod yr ochr yma i fywyd yr ysgol yn parhau i fod yn amhosibl i’w gynnal – am y tro beth bynnag.
Gan na fydd yr Eisteddfod yn digwydd bwriedir cyhoeddi fideo o nifer o eitemau yn Gyngerdd Nadolig Rhithiol fydd yn dangos rhai o uchafbwyntau y tymor a aeth heibio. Dim cystal ag Eisteddfod yr Ysgol wrth gwrs ond yn gyfle gwahanol i roi llwyfan i’r talentau sydd yma. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl disgyblion, staff, rhieni a charedigion yr ysgol.
Ellen Williams
Pennaeth
Darllenwch mwy o Cylchlythyr Byd Brynrefail Tymor yr Hydref 2021