logo Ysgol Brynrefail

Ysgol Brynrefail

Llun o adeilad Ysgol Brynrefail

Yr ydych yma: Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Byd Brynrefail - Rhifyn 18

Byd Brynrefail - Rhifyn 18


Gair gan y Pennaeth

Annwyl Rieni / Warcheidwaid

Mae’r ysgol wedi bod ar agor am bymtheg wythnos ers cychwyn y flwyddyn ysgol ar Fedi’r 1af, ac mae’r amser wir wedi hedfan! Mae mor braf gweld digwyddiadau arferol ysgol yn ail ddechrau wedi’r pandemig. Yn sicr, bydd effaith y pandemig ar unigolion ac ar y gymuned yn gyffredinol yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae pob ysgol yn gweld bod mwy o ddisgyblion angen mwy o gymorth, a bod effaith wedi bod ar lefelau presenoldeb ac ar iechyd meddwl nifer cynyddol o’n disgyblion. Ond drwy weithio gyda’n gilydd rydym yn ffyddiog y gallwn ymateb i’r her yma.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor oedd gweld yr Eisteddfod Ysgol a Pharti Pendalar yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd. Uchafbwynt arall oedd gweld y brif neuadd a’r neuadd chwaraeon yn atsain gyda’r disgyblion yn bloeddio canu’r anthem genedlaethol wrth baratoi i wylio gem Cymru yng nghwpan y byd. Ddywedai ddim mwy am y gem na’r canlyniad!

Gwych oedd gweld disgyblion Blwyddyn 10 yn trefnu Ffair Dolig ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 ac 8 fel rhain o waith Menter ar gyfer y Bac. Cafodd yr arfer o gynnal Dyddiau Sgiliau ei ail gychwyn a chafwyd diwrnod amrywiol iawn gyda bwrlwm a chyffro yn amlwg o amgylch yr ysgol......

Darllenwch mwy o Cylchlythyr Byd Brynrefail Tymor yr Hydref 2022