CROESO
UCHELGAIS | PARCH | DYCNWCH
Gair o groeso gan y Pennaeth
Diolch am ymweld â’n gwefan.
Mae Ysgol Brynrefail yn ysgol Uwchradd 11-18 oed ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. Mae tua 800 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda’r rhan fwyaf yn dod atom o’r dalgylch ysgolion cynradd Llanrug, Bethel, Llanberis, Deiniolen, Penisarwaun a Waunfawr. Mae’r disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o’u pynciau yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad mae bron pob disgybl yn rhugl ddwyieithog.
Mae natur yr ysgol yn adlewyrchu ardal ddiwylliedig, hanesyddol a chymreig Dyffryn Peris. Mae awyrgylch hapus a chartrefol yma, gyda pherthynas iach rhwng y disgyblion a staff yn nodwedd gref. Ymfalchiwn yn y ffordd mae ein disgyblion yn datblygu i fod yn unigolion hyderus, dwyieithog, medrus sydd yn gyfforddus iawn yn nghwmni cyd-ddisgyblion, staff ac ymwelwyr i’r ysgol. Mae ymwelwyr i’r ysgol yn aml iawn yn canmol nodi pa mor gyfeillgar a pharod eu sgwrs ydy disgyblion Ysgol Brynrefail!
Mae’n tîm o staff yn ymrwymiedig i wneud gwahaniaeth i fywydau’r disgyblion. Mae hapusrwydd a lles y disgyblion yn flaenoriaeth a cheisiwn ein gorau i gefnogi ac annog pob plentyn i wireddu eu potensial. Cynigiwn gwricwlwm eang a heriol ac yn hollbwysig hefyd mae amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol. Gyda’n gilydd am y copa. Dyma ydy ein nod a thrwy gydweithio a dangos uchelgais, parch a dycnwch, mi gyrhaeddwn y copa.
Hyderwn y bydd y wefan yn rhoi’r cyfle i chi brofi ychydig o’r bwrlwm o weithgareddau sydd yn digwydd yma. Beth am gael cip ar ein cylchlythyr tymhorol ‘Byd Brynrefail’? Mae mwy o wybodaeth am weithgareddau diweddaraf hefyd ar ein tudalen facebook a thrydar. Byddwn yn gwneud gwaith pellach ar y wefan yn ystod y flwyddyn felly cadwch olwg ar y newidiadau!
Diolch am eich diddordeb yn Ysgol Brynrefail. Cofiwch gysylltu gyda mi petaech angen mwy o wybodaeth neu am drefnu ymweliad.
Arwyn Williams
Pennaeth
Mwy am yr ysgol